Mae’r sgôr hylendid bwyd neu ganlyniad arolygiad a roddir i fusnes yn adlewyrchu'r safonau hylendid bwyd a ganfuwyd adeg yr arolygiad neu'r ymweliad gan yr awdurdod lleol. Nid yw'r sgôr hylendid bwyd yn ganllaw ar ansawdd bwyd.
Mae'r wybodaeth a ddarperir am fusnesau yn cael ei chadw ar ran awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu'r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. Dim ond o fewn yr ardaloedd sy'n cynnal y naill gynllun neu'r llall y gallwch chi chwilio.