Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau

Cynhelir gwefannau'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i'w defnyddio gennych chi. Drwy agor a defnyddio'r gwefannau hyn, rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau canlynol. Mae hyn yn cynnwys datganiad preifatrwydd, gwybodaeth am gwcis, datganiad hawlfraint, ymwadiad a pholisi hyperddolenni.

Cynnwys dolenni at ein gwefannau ac oddi wrthynt

Cynnwys hyperddolenni atom ni yn yr ASB

Rydym yn annog defnyddwyr i greu hyperddolenni at y wefan. Does dim rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau a gynhelir ar y wefan. Does gennym ni ddim gwrthwynebiad os ydych chi'n dymuno cynnwys dolenni uniongyrchol at ein gwybodaeth, ond dylech chi ofyn am ganiatâd os ydych chi'n bwriadu defnyddio ein logo.

Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich gwefan. Rhaid i dudalennau'r Asiantaeth Safonau Bwyd lwytho yn ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Yr hyperddolenni a ddefnyddiwn ni yn yr ASB

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau allanol, ac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo'r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid cymryd bod dolenni at wefannau allanol yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser, ac ni allwn ni reoli a yw'r tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.

Rhaid i chi gael caniatâd os ydych chi'n bwriadu defnyddio ein logo. Ni chaniateir copïo a defnyddio logo'r ASB na logos eraill yr ASB heb gymeradwyaeth yr ASB.

Defnyddio cynnwys food.gov.uk

Mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron, oni nodir yn wahanol.

© Hawlfraint y Goron

Defnyddio gwybodaeth a gwasanaethau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r defnydd o wybodaeth a gwasanaethau perchenogol y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ddarostyngedig i delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae’r sgoriau’n agored i’w newid gan eu bod yn cael eu diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu’r safonau a ganfyddir pan fydd busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd awdurdod lleol. Caiff defnyddwyr eu hatgoffa y gallai dangos neu ddefnyddio sgôr annilys neu anghywir fod yn drosedd a/neu gallai beri i’r defnyddiwr ddod yn agored i atebolrwydd sifil posib. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y sgôr gyfredol yn cael ei defnyddio, neu am nodi’r dyddiad pan ddiweddarwyd yr wybodaeth.

Mae delweddau’r CSHB a logo’r ASB (y “Delweddau”) wedi’u diogelu gan nodau masnach cofrestredig y DU a hawliau eiddo deallusol eraill, ac mae’r ASB yn berchen arnynt ac yn eu rheoli.

Er mwyn sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu drysu na’u camarwain, rhaid dilyn y rheolau isod bob amser pryd bynnag y defnyddir y Delweddau mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys ar: sticeri a phosteri mewn safleoedd, bwydlenni argraffedig, taflenni, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac unrhyw lwyfannau electronig neu unrhyw weithgarwch a deunydd hyrwyddo arall.

  • Ni ddylid newid na diwygio’r Delweddau heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw newid gan yr ASB trwy gysylltu â .
  • Mae enw’r CSHB a logo’r ASB yn rhan annatod o ddyluniad y Delweddau. Gellir eu defnyddio yn y cyd-destun hwn, ond ni ddylid eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer defnydd arall o’r fath gan y Tîm Sgoriau Hylendid Bwyd trwy gysylltu â .
  • Ni ddylid cyflwyno’r Delweddau mewn unrhyw weithgarwch na deunyddiau hyrwyddo mewn unrhyw fodd a allai awgrymu bod yr ASB yn cymeradwyo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, adnodd ar-lein neu weithgarwch arall. Dim ond y sgôr go iawn a ddyfarnwyd o dan y CSHB y gellir ei defnyddio. Pe bai sgôr unrhyw fusnes bwyd yn newid mewn arolygiad dilynol, dim ond delweddau o’r sgôr newydd y gellir eu defnyddio a rhaid diweddaru neu dynnu unrhyw ddelweddau o sgoriau blaenorol ar unwaith o’r holl weithgarwch hyrwyddo a’r deunyddiau y maent yn ymddangos ynddynt.
  • Gall yr ASB roi neu dynnu caniatâd, neu roi amodau ar gyfer unrhyw un o’r uchod, yn ôl ei disgresiwn llwyr. Cedwir pob hawl arall yn llawn.

Trwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio’r Delweddau, mae pob busnes bwyd yn derbyn ac yn cytuno i gydymffurfio’n llwyr â’r rheolau hyn.

Mae sticeri’r CSHB sy’n ymgorffori’r Delweddau yn destun yr holl reolau uchod, ond dim ond awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun sy’n eu dyroddi. Rhaid peidio â chael gafael ar sticeri o unrhyw ffynhonnell arall, ac ni ddylai unrhyw ffynhonnell heb awdurdod atgynhyrchu’r sticeri.

Mae arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys mewn unrhyw weithgarwch neu ddeunydd hyrwyddo yn torri’r rheolau uchod a hawliau’r ASB. Os torrir y rheolau uchod a/neu hawliau eiddo deallusol yr ASB, gall yr ASB fynnu bod unrhyw ddefnydd o’r Delweddau’n dod i ben ar unwaith heb gyfyngu ar rwymedïau cyfreithiol eraill yr ASB.

Gall hefyd fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnachu, er enghraifft o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016. Yng Nghymru mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfoes, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau, hepgoriadau neu ddatganiadau camarweiniol.

Diogelu rhag feirysau

Mae gweithredwyr y safle yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen wrthfeirysau ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd.

Ni all yr ASB dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o wefan yr ASB.

Eich preifatrwydd a chwcis

Sut rydym yn trin eich data personol

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Cwcis

Sut rydym yn defnyddio cwcis a sut gallwch chi eu rheoli.